Rhithdyb

Rhithdyb
Enghraifft o'r canlynolpsychopathological symptom, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Maththought disorder Edit this on Wikidata
Rhan ofantasy Edit this on Wikidata

Diffinnir rhithdyb (o rhith + tyb) yn gyffredinol fel cred anwir sefydlog a defnyddir y term mewn iaith bob dydd i ddisgrifio cred sydd naill ai'n anwir, ffansïol, neu sy'n tarddu o dwyll. Mewn seiciatreg, mae'r diffiniad o angenrheidrwydd yn fanylach gywir ac yn awgrymu bod y gred yn batholegol (sef o ganlyniad i afiechyd neu broses afiechydol). Fel patholeg mae'n amlwg yn wahanol i gred a seilir ar wybodaeth anwir neu anghyflawn neu ambell effaith canfyddiadol a elwir yn gywirach yn gyfarganfyddiad neu'n rhith.

Digwydd rhithdybiau yn nodweddiadol yng nghyd-destun afiechyd meddwl neu niwrolegol, er nad ydynt yng nghlwm wrth unrhyw afiechyd penodol ac maent wedi'u darganfod yng nghyd-destun nifer o gyflyrau patholegol (yn gorfforol a meddyliol). Pa fodd bynnag, maent o bwysigrwydd diagnostig arbennig ym maes anhwylderau seicotig, yn enwedig sgitsoffrenia[1] a mania ac iselder mewn episodau anhwylder deubegwn.[2]

  1.  Sgitsoffrenia: Symptomau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  2.  Anhwylder affeithiol deubegwn: Symptomau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search